P-04-601   Gwaharddiad Arfaethedig ar Ddefnyddio e-sigaréts Mewn Mannau Cyhoeddus

Manylion

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â bwrw ymlaen â’u gwaharddiad arfaethedig ar ddefnyddio e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus caeedig, mannau cyhoeddus sylweddol gaeedig, a gweithleoedd yng Nghymru. Ni all y cynnig hwn, os caiff ei weithredu, ond arwain at ostyngiad yn y nifer a fydd yn defnyddio e-sigaréts a chynnydd yn y nifer a fydd yn ysmygu sigaréts.

Gwybodaeth ychwanegol:

Mae100,000 o bobl yng Nghymru yn defnyddio e-sigaréts eisoes. Mae’r rhain yn ysmygu llai o sigaréts neu nid ydynt yn ysmygu sigaréts o gwbl; dylai hyn fod yn achos dathlu, nid yn achos pryder. Yn ôl arolwg a gynhaliodd y BBC yn ddiweddar, mae 62% o’r cyhoedd yn gwrthwynebu gwahardd defnyddio e-sigaréts yn gyhoeddus. Yn Sbaen, lle gwaharddwyd defnyddio e-sigaréts yn gyhoeddus, bu gostyngiad o 70% yn y defnydd o e-sigaréts a chynnydd yn y nifer a oedd yn ysmygu. Rydym yn ofni y bydd yr un peth yn digwydd yng Nghymru os bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi eu gwaharddiad arfaethedig ar waith. O gofio y bydd hysbysebu a hyrwyddo e-sigaréts yn cael ei wahardd yn fuan ar ôl pasio’r Gyfarwyddeb Cynhyrchion Tybaco, ble fydd ysmygwyr yn cael gwybodaeth am e-sigaréts, yn enwedig os ydynt yn cael eu gwahardd mewn mannau cyhoeddus? Mae angen i ysmygwyr weld pobl yn defnyddio e-sigaréts yn gyhoeddus, mae angen iddynt fedru mynd at y rhai sy’n defnyddio e-sigaréts i siarad â nhw a chael rhagor o wybodaeth ac yna dewis defnyddio sigaréts mwy diogel, gobeithio

Prif ddeisebydd: Simon Thurlow

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 7 Hydref

Nifer y llofnodion:   1,196 llofnod a’r lein